Finance Committee
Y Pwyllgor Cyllid
Darren Millar AC
Cadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus
13 Hydref 2014
Annwyl Darren
Bil Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru)
Ysgrifennaf atoch ymhellach i lythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd at Archwilydd Cyffredinol Cymru ar 3 Hydref, a'r ymateb cyfatebol gan yr Archwilydd Cyffredinol.
Hoffai'r Pwyllgor Cyllid ategu cais y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd bod y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yn cytuno y dylai Archwilydd Cyffredinol Cymru gynnal adolygiad o'r Asesiad Effaith Rheoleiddiol yn y Bil Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru).
Yn gywir
Jocelyn Davies AC
Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid
cc:
Alun Ffred Jones, Cadeirydd y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd
Huw Vaughan Thomas, Archwilydd Cyffredinol Cymru